Numbers 7:84 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[84-88] Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd: — un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un — un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un (Felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un (Felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr) — un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr — pob un gyda'i offrwm o rawn — un deg dau bwch gafr yn offrymau puro — dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plt arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur,