Numbers 7:89 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth DDUW; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Moses i mewn i Babell Presenoldeb Duw i siarad â'r ARGLWYDD, clywodd lais yn siarad gydag e. Roedd y llais yn dod o rywle uwch ben caead Arch y dystiolaeth oedd rhwng y ddau geriwb. Roedd yn siarad gyda Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan aeth Moses i mewn i babell y cyfarfod i lefaru wrth yr ARGLWYDD, clywodd lais yn galw arno o'r drugareddfa oedd ar arch y dystiolaeth rhwng y ddau gerwb; ac yr oedd y llais yn siarad ag ef.