Numbers 8:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a'u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr ARGLWYDD: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i'w glanhau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Lefiaid yn mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd trwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, er mwyn ei puro nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau.