Numbers 8:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaith morthwyl oedd y menora — aur wedi ei guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddangos i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y canhwyllbren wedi ei wneud o aur gyr, o'i draed at ei flodau. Gwnaeth y canhwyllbren yn l y patrwm a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses.