Numbers 9:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrth bobl Israel, ‘Os oes rhywun, heddiw neu yn y dyfodol, yn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw; neu'n methu bod yn y dathliadau am ei fod wedi mynd ar daith bell, bydd yn dal yn gallu dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un ohonoch chwi neu o'ch disgynyddion yn ei halogi ei hun trwy gyffwrdd chorff marw, neu os bydd ar daith bell, y mae er hynny i gadw'r Pasg i'r ARGLWYDD.