Numbers 9:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r ARGLWYDD; fel y byddo deddf y Pasg a'i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r un fydd â'i enedigaeth o'r wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi eisiau dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD, rhaid iddyn nhw gadw'r un rheolau a'r un drefn. Mae'r un rheolau yn berthnasol i frodorion a mewnfudwyr.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn l y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.'"