Numbers 9:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd os byddai'r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o'r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai'r cwmwl, yna y cychwynnent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos. Pan oedd y cwmwl yn codi y bore wedyn, roedden nhw'n symud ymlaen. Pryd bynnag roedd y cwmwl yn codi, yn y dydd neu yn y nos, roedden nhw'n symud yn eu blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.