Numbers 9:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai'r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Israel yn aros yn y gwersyll am faint bynnag roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl — boed hynny'n ddeuddydd, yn fis, neu'n flwyddyn. Ond pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw'n teithio yn eu blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddeuddydd, neu fis neu flwyddyn, byddai pobl Israel yn aros yn eu pebyll heb gychwyn ar eu taith; ond pan godai'r cwmwl, byddent yn cychwyn.