Numbers 9:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth air yr ARGLWYDD y gwersyllent, ac wrth air yr ARGLWYDD y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr ARGLWYDD oedd yn dweud pryd oedden nhw'n teithio a pryd oedden nhw'n gwersylla. Roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud trwy Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddent yn gwersyllu, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith; yr oeddent yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.