Obadiah 1:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu tra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo; pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiau a gamblo am gyfoeth Jerwsalem, doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ar y dydd y sefaist draw, ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth, ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth a bwrw coelbren am Jerwsalem, yr oeddit tithau fel un ohonynt.