Obadiah 1:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos, a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd. Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill; cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.