Obadiah 1:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau, a Seffela oddi ar y Philistiaid. Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraim a'r ardal o gwmpas Samaria, a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.