Obadiah 1:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethglud yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath; a pobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell yn meddiannu pentrefi'r Negef.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef.