Obadiah 1:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a'th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a'th dwyllasant, ac a'th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo; cei dy yrru at dy ffiniau. Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti, a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti wedi gosod trap heb i ti wybod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti nid oes deall ar hyn.