Philemon 1:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a wyllyswn i ei attal gyd a mi, mal troso ti y bysei yddo vy‐gweini i yn y rrwymeu yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi fy hun, fel trosot y gwasanaethai fyfi yn rhwymau yr Efengyl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ewyllysiwn ei gadw gyda mi, i’m gwasanaethu trosot yn rhwymau yr efengyl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi, fel ar dy ran y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl;