Philemon 1:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr eb lavv dy veddwl di ny wnawn i ddim mal na byddei dy ddaioni di megis gan angen, anyd o vodd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim, fel nad megis o angenrhaid y byddai dy ddaioni, eithr o wirfodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond ni ewyllysiais wneuthur dim heb dy gydsyniad di, fel na byddai dy ddaioni fel petai o anghenraid ond o wirfodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai'n rhaid i ti gytuno — dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr heb dy feddwl di ni ddymunwn wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megys o anghenrhaid ond o wirfodd.