Philemon 1:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd yr owrhon mal gwas anaethvvr, amyn uchlaw gwas anaethvvr, ’sef mal brawd yn caredic, yn enwedic y mi: pa veint mwy y ti, ac yn y cnawt, ac yn yr Arglwydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dim mwyach megis caethwas, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn enwedig genyf fi, ond pa faint mwy genyt ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid fel gwas mwyach eithr yn fwy na gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi, ac yn fwy fyth i ti yn y cnawd ac yn yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny — fel ffrind annwyl sy'n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid fel caethwas mwyach, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn bennaf i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?