Philemon 1:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi Paul a scrivendodd hyn am llaw vy un: mi a dalaf‐y‐pwyth, cyd na ddywedaf yty, ydd wyt yn vy‐dlet ys am dana ty vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyny dyro at fy nghyfrif i: myfi Paul a ysgrifenais â’m llaw fy hun; myfi a dalaf; fel na ddywedwyf wrthyt mai i mi y mae arnat am danat dy hun hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
myfi Paul wyf yn ysgrifennu â’m llaw fy hun, myfi a dalaf — fel na ddywedwyf wrthyt dy fod dithau yn fy nyled i amdanat dy hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi Paul a'i hysgrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ysgrifennu'r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu 'm llaw fy hun: fe dalaf fi yn l, a hynny heb sn dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
myfi Paul a ysgrifennaf â'm llaw fy hun, Myfi a dalaf: fel na ddywedwyf wrthyt dy fod yn ddyledus i mi ym mhellach am danat dy hun.