Philemon 1:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eb law hyn hefyt paratoa i mi letuy: canys gobeithaf trwy eich gweddieu im rroddir ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac heb law hyn hefyd, parottoa i mi letty, canys gobeithio yr wyf mai trwy eich gweddiau y rhoddir fi i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un pryd, paratoa lety i mi; oherwydd gobeithiaf trwy eich gweddïau chwi y’m cyflwynir i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un peth arall: Cadw ystafell yn rhydd i mi. Dw i wir yn gobeithio y bydd Duw wedi ateb eich gweddïau chi, ac y bydda i'n cael dod i'ch gweld chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Heblaw hyn hefyd, parottoa i mi letty: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y caniateir i mi ddyfod attoch.