Philemon 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y gwneler cyfraniat dy ffydd yn ffrwythlawn, a’ mal yr adwaener pa ddaioni pynac ys ydd ynoch trwy Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bo i gymdeithas dy ffydd fyned yn effeithlawn, yngwybodaeth pob peth da y sydd ynoch, er Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y bo cyfranogi o’th ffydd yn effeithiol mewn gwybodaeth o bob rhyw ddaioni sydd ynom tuag at Grist;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gweddïo y bydd dy haelioni di wrth rannu gydag eraill yn cynyddu wrth i ti ddod i ddeall yn well gymaint o fendithion sydd gynnon ni yn ein perthynas â'r Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y bo i gymdeithas dy ffydd ddyfod yn effeithiol, trwy lawn‐adnabyddiaeth o bob peth da sydd ynom ni, tuag at Grist.