Philemon 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y mae genym lawenydd mawr a’ dyddanwch yn dy gariat ti, can ys trwyo ti, vrawt, y diddenir caloneu y Sainct æ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys llawenydd lawer fu genyf a diddanwch yn dy gariad, o herwydd i ymysgaroedd y saint gael eu dadebru trwot, frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys cefais lawer o lawenydd a diddanwch ar gyfrif dy gariad, fy mrawd, oherwydd adfywiwyd calonnau’r saint drwot ti.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cefais lawer o lawenydd a dyddanwch yn dy gariad di, o herwydd i galonnau y saint gael eu hadlonni trwot ti, frawd.