Philemon 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam, cyd bo mawr vy hyder yn‐Christ y orchymyn yty yr hyn ’sy weddus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, er bod genyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd weddus,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, er bod gennyf bob rhyddid yng Nghrist i orchymyn dy ddyletswydd iti,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi ei roi i mi gan y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglu375?n 'th ddyletswydd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, er fod gennyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd gyfaddas,