Philemon 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny o ran cariat gwell cenyf atolwgy yty, cyd bwyf val yr ytwyf, ys ef Paul hen vv r, ac owrhon hefyt carcharor er mvvyn Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o achos cariad yn hytrach attolwg yr wyf, a mi yn gyfryw un a Paul yr henafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor i Grist Iesu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn hytrach ar sail cariad yr wyf yn cymell, — a mi Paul megis hynafgwr ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu — cymhellaf di
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond am fy mod i'r math o berson ydw i — Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu — mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o achos cariad yn hytrach yr wyf yn attolwg, a mi yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu;