Philippians 1:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi a wyllysiwn i chwi wybot, vroder, am y petheu a ddigvvyddavvdd i mi, a daethont yn hytrach yn rhwyddiant ir Euangel,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ewyllysiwn wybod o honoch, frodyr, am y pethau yn fy nghylch, mai yn hytrach i gynnydd yr Efengyl y daethant,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mynnwn i chwi wybod, frodyr, i’m helyntion droi’n hytrach er cynnydd yr efengyl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi'n gyfle newydd i rannu'r newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, ddarfod i'm hamgylchiadau droi allan er llwyddiant i'r efengyl,