Philippians 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r blait arall o gariat, gan wybot vy‐dodi i yn carchar er amddeffen d yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r lleill o ymbleidio y cyhoeddant Grist, nid yn bur, gan feddwl cyfodi gorthrymder i’m rhwymau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond y lleill o uchelgais, nid yn ddilwgr, gan dybied peri blinder i mi yn fy rhwymau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y'm gosodwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf — dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a rhai o bleidgarwch a bregethant Grist, nid o egwyddor bur, gan feddwl cyfodi blinder i'm rhwymau.