Philippians 1:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth er hyny? eto Christ a bregethir ym‐pop modd, pa vn bynac vo ai o ryw liw, n ai yn gywir: ac y mae hyny yn llawen genyf, ac a vydd llawen genyf hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, ynte, ond mai ymhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist a gyhoeddir?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth ynteu? Dim ond mai Crist a gyhoeddir ymhob modd, ai mewn rhith ai mewn gwirionedd, ac yn hyn yr wyf yn gorfoleddu, ie, a gorfoleddu a wnaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus. A hapus fydda i hefyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, prun ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth ynte? yn unig bod ym mhob modd, ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist yn cael ei gyhoeddi; ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ië, ac y llawenychaf;