Philippians 1:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐gwn y treigla hynn yn ieched vvrieth i mi, trwy eich golochwyt chvvi, a thrwy ganhorthwy Yspryt Iesu Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ïe, ac y llawenychaf; canys gwn y bydd hyn yn troi allan i mi yn iachawdwriaeth trwy eich gweddi chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwn y try hyn yn ymwared i mi trwy eich gweddi chwi a chyflenwad ysbryd Iesu Grist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wrthi'n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i'n gwybod y bydda i'n cael fy rhyddhau yn y diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys gwn y try hyn allan i mi er iachawdwriaeth, trwy eich deisyfiad chwi a chyflenwad Yspryd Iesu Grist,