Philippians 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
erwydd veu llwyr dd ysgwiliad, a’ m gobaith, yn‐dim na’m gwradwydder, eithyr o gwbl hyder, val bop amser, velly yr awrhon y mawrygir Christ yn veu‐corph, i pa vn bynac vo ai gan vywyt ai gan angeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac arlwyad Yspryd Iesu Grist, yn ol fy nisgwyliad a’m gobaith nad mewn dim y’m cywilyddir; eithr ymhob hyder, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd ai trwy farwolaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn ôl f’awyddfryd a’m gobaith na’m gwaradwyddo mewn dim, ond yn hollol ddiofn fel bob amser, felly’r awron hefyd, y mawrheir Crist yn fy nghorff i, ai trwy fyw ai trwy farw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud — hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, prun bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn ol fy awyddfryd a'm gobaith nad mewn dim y'm cywilyddir, eithr ym mhob hyfder ymadrodd, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd a'i trwy farwolaeth.