Philippians 1:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mae yn gyfing arnaf o’r ddautu, gan ddeisyf u vy‐datdod a’ bot y gyd a Christ, yr hyn ’sy oreu dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
pa beth a ddewisaf, nis gwn; a chyfyng yw arnaf rhwng y ddau, gan fod a chwant genyf i ymadael ac i fod gyda Christ,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyfyng yw arnaf o’r ddeutu gan fod arnaf chwant ymado a bod gyda Christ,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu, gan fod gennyf chwant i'm datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth — dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond cyfyngir arnaf o'r ddeu‐tu, gan fod gennyf y chwant i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw;