Philippians 1:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn vnic ymddugwch, val y mae addas er Euangel Christ, pan yw ai delwyf a’ch gwelet, ai bwyf absent, bot i mi glywet ywrth eich negesae a’bod y’wch sefyll yn vn yspryt ac yn vn eneid gan ychvvy gydymdrech trwy ffydd yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn unig yn deilwng o Efengyl Crist bydded eich ymddygiad, fel pa un bynnag ai dyfod a’ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn un yspryd, ag un enaid yn cyd-ymdrech tros ffydd yr Efengyl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn unig bydded eich ymarweddiad yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un a ddelwyf a’ch gweled ai bod yn absennol y clywyf am eich helynt, sefyll ohonoch mewn un ysbryd gan gyd-ymdrechu ag un enaid dros ffydd yr efengyl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i'n dod i'ch gweld chi neu beidio, byddwch chi'n sefyll yn gadarn ac yn brwydro'n galed gyda'ch gilydd dros y newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un bynnag ai dyfod a'ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn gadarn mewn un yspryd, âg un enaid yn cyd‐ymdrech dros ffydd yr Efengyl,