Philippians 1:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn‐dim nac ofnwch gan eich gwrthnepwyr, yr hyn ’sy yddynt wy yn argoel cyfer colledigeth, ac y chwi theu o iechedwrieth, a’ hyny gan Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac heb eich dychrynu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o’ch iachawdwriaeth chwi; a hyny oddiwrth Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn iddynt hwy sydd arwydd eglur o golledigaeth, eithr o’ch iechydwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy'n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw'n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub — a hynny gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac heb eich brawychu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;