Philippians 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae yn gredadwy genyf hyn yma, pan yw hwn a ðechreoð y gwaith da hyn ynoch, ei gorphen yd yn‐dydd Iesu Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn hyderus am y peth hwn ei hun, y bydd i’r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan fod yn ddiogel gennyf y peth hwn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei berffeithio hyd ddydd Iesu Grist:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fod yn hyderus yn yr un peth hyn: y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;