Philippians 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis y mae yn iawn i mi synnied hyn am danoch oll, can ys eich bot yn vy‐ calon yn gystal yn veu rhwymae ac yn veu amndeffen, a’ chadarnhad yr Euangel, nyd amgen eich bot chvvi oll yn gyfranog iō a mi o’m rhat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y mae yn gyfiawn i mi synied hyn yma am danoch oll, gan fy mod a chenych yn fy nghalon, a chwi oll yn fy rhwymau ac yn fy ymddiffyn a chadarnhad yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o ras.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis y mae’n gyfiawn i mi synied hyn am bawb ohonoch am eich bod gennyf yn fy nghalon, gan fod pawb ohonoch yn fy rhwymau yn ogystal ag yn f’amddiffyn o’r efengyl a’i chadarnhad, yn gyd-gyfranogion â mi o ras:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i mi — sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y mae yn iawn i ni synied hyn am danoch oll, gan eich bod gennyf yn fy nghalon — yn fy rhwymau a hefyd yn fy amddiffyn a chadarnhâd yr efengyl — yn gyfrannogion â mi o'r gras hwn.