Philippians 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Duw yn test ymy, mor or hoff genyf chwy chvvi oll o eigiawn ve‐calon in Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr hiraethaf am danoch oll, yn ymysgaroedd Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys Duw yw fy nhyst y modd yr hiraethaf am bawb ohonoch yn serchiadau Crist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond Duw sy'n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi — dw i'n eich caru chi fel mae'r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr wyf yn hiraethu am danoch oll yng nghalon Iesu Grist.