Philippians 2:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A D oes neb diddanwch in‐Christ, a’s oes confort cariat, a’s oes neb cymddeithas a’r Yspryt, a’ s oes neb tosturi n a’ thrugaredd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os oes, gan hyny, ryw ddiddanwch yng Nghrist, os rhyw gysur cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw ymysgaroedd a thosturiaethau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Od oes gan hynny ddim apêl yng Nghrist, od oes dim cymhelliad cariad, od oes dim ymgyfranogi o’r Ysbryd, od oes dim tynerwch calon a thosturiaethau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy perthyn i'r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy'r Ysbryd yn eich clymu chi'n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes gan hynny ryw gefnogaeth yng Nghrist, os rhyw gymhelliad cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw galon‐dynerwch a thosturiaethau,