Philippians 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd pa bleit veu‐caredigion, megis bop amser yr uvyddhaesoch, nyd megis yn veu‐gwydd yn vnic, eithr yr awrhon yn vwy o lawer yn veu absent, velly gorphenwch eich iechydwrieth ychunain drwy ofn ac echryn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, fy anwylyd, fel bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly f’anwyliaid, megis y buoch bob amser yn ufudd, nid fel pe yn fy mhresenoldeb yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn f’absenoldeb, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain gydag ofn a dychryn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, fy anwyliaid, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid megys yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain.