Philippians 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val y byddoch yn ddiargywedd, ac yn bur, ac yn veibion i D d uw yn ddigwl iedic ym‐pervedd cenedleth ddrigionus ddygam, ym‐plith yr ei yð ych yn dysclaerio megis lleuvereu yn y byt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y byddoch yn ddianaf a diniweid, yn blant Duw heb fefl ynghanol cenhedlaeth wyrog a throfaus, ymhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y byddoch ddifeius a diddrwg, yn blant Duw, dinam ynghanol cenhedlaeth wyrgam a throfaus, a chwithau yn eu plith i’ch gweled megis goleuadau yn y byd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y byddoch yn ddiargyhoedd a didwyll, yn blant Duw, yn ddifeius yng nghanol cenedlaeth ŵyrog a chyfeiliornus, ym mhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd,