Philippians 2:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn rrac esten d gair y bywyt, er gorfoledd ym yn‐dyð Christ, can na redais yn over, ac na lavuriais yn over.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn cynnal gair y bywyd; yn ymffrost i mi yn nydd Crist, mai nid yn ofer y rhedais, ac nid yn ofer y llafuriais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddal allan air y bywyd, er ymffrost i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer ac nad ymboenais yn ofer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i yn gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn dal allan air y bywyd, er ymffrost i mi erbyn Dydd Crist, na redais yn ofer, ac na lafuriais yn ofer.