Philippians 2:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ie, a’ phe im offrymit ar ucha yr aberth a’ gwasanaeth eich ffydd, llawen yw genyf, a’ chydlawen a’ chwi oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr, ac os offrymmir fi ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenychu yr wyf ac yn cyd-lawenychu a’r oll o honoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ie, ac od ydys yn f’offrymu ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf a chyd-lawenhau â chwi oll;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau chwi i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ië, os yw fy mywyd i'w dywallt allan fel diod-offrwm ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, yr wyf yn llawenychu, ac yn cyd‐lawenychu â chwi oll.