Philippians 2:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gobeithaf yn yr Arglwydd Iesu, y dd anvon af Timoth e us ar vyr der atoch, vegis im conforter i hefyt, wrth wybot ywrthych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gobeithio yr wyf yn yr Arglwydd Iesu, ddanfon Timothëus ar fyrder attoch, fel y’m llonner gan wybod eich helynt:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr gobeithio’r wyf yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, fel y’m cysurer innau hefyd o wybod eich helynt chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder atoch, fel y'm cysurer innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, er mwyn imi gael fy nghalonogi o wybod am eich amgylchiadau chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder attoch, fel y'm llonner, gan wybod eich helynt: