Philippians 2:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr chvvi adwaenoch y brofiad igeth am dano ef, can ys val map y gyd a thad, y gwasanaethoedd ef gyd a mi vi yn yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid pethau Iesu Grist: ond y prawf o hono ef a wyddoch, mai fel i dad y gwasanaetha plentyn, ynghyda mi y gwasanaethodd tua’r Efengyl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr gwyddoch fel y profwyd ef, iddo fel mab gyda thad gyd-wasanaethu â mi ar ran yr efengyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddoch fel y profwyd ei werth ef, gan iddo wasanaethu gyda mi, fel mab gyda'i dad, o blaid yr Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond y prawf o hono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thâd y gwasanaethodd ef gyda mi mewn perthynas i'r efengyl.