Philippians 2:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a ’gobeithaf yn yr Arglwydd, y bydd i mi vyhun hefyt ddyvot ar vyr der.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac hyderaf yn yr Arglwydd y bydd i mi fy hun ddyfod ar fyrder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a theimlaf yn sicr yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae gennyf hyder yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder atoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr wyf yn sicr, yn yr Arglwydd, y byddaf fi fy hun hefyd yn dod yn fuan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hyderaf yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd yn fuan attoch.