Philippians 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ys tybiais vot yn angenraid iol dd anvon veu‐ brawd Epaphroditus atoch, veu‐cydweithwr, a’m cydvilwr, ’sef eich cennad chwi, a’r hwn a vu yn vy‐gwasanaethu i nheu o gyfryw betheu ac oeð arnaf i eisieu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angenrheidiol a dybiais ddanfon attoch Epaphroditus, y brawd ac fy nghydweithiwr a chyd-filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i’m cyfreidiau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr tybiais y dylwn anfon atoch Epaphroditus fy mrawd a’m cyd-weithiwr a’m cyd-filwr, a’ch cennad chwi a’ch gweinidog i’m cyfreidiau i,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaffroditus, fy mrawd, a'm cyd‐weithiwr, a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi, a gweinidog i'm cyfreidiau innau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi — brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan roeddwn i angen help.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn credu hefyd y dylwn anfon Epaffroditus atoch, brawd a chydweithiwr a chydfilwr i mi, a'ch cennad chwi i weini ar fy anghenraid i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphroditus, fy mrawd a'm cyd‐weithiwr a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i'm hangen innau.