Philippians 2:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ diau y vot ef yn glaf, ac yn gyfagos y angeu: anyd bot y Dduw drugarhau wrthaw, ac ny d wrtho ef yn vnic, amyn wrthy vi hefyt, rac y‐my gahel tristit ar dristit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys claf y bu efe yn agos i angau; eithr Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, fel na fyddai genyf dristwch ar dristwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys claf a fu a bron marw; ond trugarhaodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd fel na chawn dristwch ar dristwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef; ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael ohonof dristwch ar dristwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato — ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, fe fu'n wael, hyd at farw bron; ond fe dosturiodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd, rhag imi gael gofid ar ben gofid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau; eithr Duw a drugarhâodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael o honof dristwch ar dristwch.