Philippians 2:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi y d anvoneis ef gan hyny yn ddiescaelusach, val pan welech ef drachefn, y llawenhaech, ac y byddwn i nheu yn ddidristach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddyfalach, gan hyny, y danfonais ef, fel wedi ei weled ef drachefn y llawenychech, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bum felly’n fwy dyfal i’w anfon, fel y byddech lawen, drachefn o’i weled a minnau’n llai fy nhristwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf, felly, yn fwy eiddgar i'w anfon, er mwyn i chwi lawenhau eto o'i weld, ac i minnau fod yn llai fy ngofid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gyda mwy o awydd felly yr anfonais ef, fel, wedi i chwi ei weled ef, y llawenychech drachefn, a minnau yn llai fy nhristwch.