Philippians 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val na vvneler dim trwy gynnen neu ’wag ’ogoniant, eithyr yn‐gostyngeidrwydd‐calon tybied pop vn vot arall yn well nac ef yhun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded dim trwy ymbleidio, na thrwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd yn tybied eich gilydd yn rhagori ar chwi eich hunain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
heb wneuthur dim trwy ymbleidio neu trwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, pawb yn cyfrif eraill yn amgenach na hwy eu hunain,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na wneler dim trwy ymbleidiaeth neu wag ogoniant, eithr pawb mewn gostyngeiddrwydd meddwl, yn ystyried eraill yn rhagori arnynt eu hunain;