Philippians 2:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ys er mwyn y gwaith Christ y bu ef yn agos i amgeu, ac ny ðarbodawdd am ei einioes, y gwplau deffic eich gwasanaeth i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys oblegid gwaith Crist, hyd at angau y nesaodd, gan beryglu ei einioes fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn y gwasanaeth tuag attaf fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys er mwyn gwaith Crist bu agos iddo farw trwy beryglu ei fywyd i gyflenwi diffyg eich gwasanaeth tuagataf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys oblegid gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, ac y bu diddarbod am ei einioes, fel y cyflawnai efe eich diffyg chwi o'ch gwasanaeth tuag ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu'r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi'n methu ei wneud eich hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd bu yn ymyl marw er mwyn gwaith Crist pan fentrodd ei fywyd i gyflawni drosof y gwasanaeth na allech chwi mo'i gyflawni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys o herwydd gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, gan beryglu ei fywyd, fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn eich gwasanaeth tuag attaf fi.