Philippians 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr ef y diðymiawð ehun, ac a gymerth arnaw agwedd gwas, ac ei gwnaethpwyt yn gyffelyp i ddynion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr Ef Ei hun a waghaodd Efe, ffurf gwas yn cael ei chymmeryd Ganddo, ac yng ngyffelybiaeth dynion Ei eni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond a’i gwacaodd ei hun, gan gymryd arno ffurf gwas,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol — roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr efe a waghâodd ei hun, gan gymmeryd ffurf gwas, a'i wneyd yng nghyffelybiaeth dynion; a chan ei gael mewn dull fel dyn,