Philippians 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
WEithion, veu‐broder, byddwch lawen yn yr Arglwyð. Ny d blin gen y vi scrivennu yr vn petheu atoch, ac y chwi theu y mae yn beth dilys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifenu yr un pethau attoch, i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi diogel yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. I mi’n wir nid yw ysgrifennu’r un pethau’n faich, ac i chwi diogel yw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, gyfeillion, llawenhewch yn yr Arglwydd. Nid yw ysgrifennu'r un pethau atoch yn drafferth i mi, ac i chwi y mae'n ddiogelwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau attoch i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi y mae yn ddyogel.