Philippians 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nyd val pe bawn wedy ei gyrayddyt eisius, neu vot eisius yn berfeith: eithr dilyn ydd wyf, y geisiavv emavlyt yn yr hyn er ei vwyn yr ymavaelir ynof y gan Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid fy mod eisoes wedi cael, neu eisoes wedi fy mherffeithio; ond dilyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof hefyd gan Grist Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid fy mod eisoes wedi caffael nac eisoes wedi’m perffeithio, ond dal rhagof yr wyf o gallwyf gael gafael yn y peth hwnnw y gafaelwyd ynof o’i blegid gan Grist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi ei fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid fy mod eisoes wedi derbyn y wobr, neu eisoes wedi fy mherffeithio, ond dylyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof gan Grist.